Cyfres Amdani: Sylfaen – Y Mawr a’r Fach Straeon o’r Rhondda

£5.99

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylfaen yn cynnwys straeon byrion yn ymwneud â rhyw hanesyn o bentre penodol yng nghymoedd Rhondda Fach a Rhondda Fawr.

A book for Welsh learners, Foundation Level, comprising short stories all related to a specific Rhondda valley village.

Adolygiad oddi ar www.gwales.com trwy ganiatâd Cyngor Llyfrau Cymru/A review from www.gwales.com, with the permission of the Welsh Books Council.

Mae hwn yn llyfr gwych i ddysgwyr.

Dwi’n hoff iawn fod y geiriau trwm yn dangos i fi pan mae gair wedi cael ei gyfieithu ar waelod y dudalen. Mae hyn yn golygu does dim rhaid i fi chwilio am eiriau sydd ddim wedi cael eu cyfieithu. Dyw llif fy narllen i (araf) ddim yn cael ei amharu.

Mae llawer o ddisgrifiadau o olygfeydd a lleoedd yn y dref. Gyda iaith lafar ddefnyddiol fel o’r blaen ac ar bwys a I lawr o brif ffordd Ystrad mae canolfan chwaraeon, mae disgrifiadau o lefydd sydd yn iaith gyffredin bob dydd, yn dda i fi ymarfer nhw. Dwi’n mwynhau’r disgrifiadau o enwau lleoedd hefyd.

Fel dysgwr, mae pob stori yn ddigon byr i fi ddarllen mewn un tro a galla i ddeall y rhan fwyaf o eiriau. Galla i gael synnwyr o’r brawddegau os yw geiriau yn anghyfarwydd. Dydw i ddim wedi bod i’r Rhondda ond mae’r straeon hyn yn rhoi synnwyr da o’r lle. Cymunedau agos, cymeriadau, hwyl a jôcs, a hefyd synnwyr o’r goedwig a’r mynyddoedd.

Mae’r straeon wedi’u hysgrifennu yn y gorffennol ac mae pob stori am ddigwyddiad bach. Un stori wnes i fwynhau yn arbennig oedd y disgrifiad syml o’r awdur a’i wraig yn ffeindio tŷ ble “rwy’n gallu ffitio drwy’r drws, felly ro’n i’n hapus!” Dwi wedi mwynhau darllen y llyfr a byddwn i’n ei argymhell i ddysgwyr eraill.

Anthea Filmer

In stock

Description

Awdur: Sion Tomos Owen

ISBN: 9781784615826 (178461582X)
Dyddiad Cyhoeddi: Mai 2018
Cyhoeddwr: Y Lolfa
Fformat: Clawdd medial, 211×149 mm, 88 tudalen
Iaith: Cymraeg